Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Llais Hard Cor 4

Platfform

Next Up Academy: Hip Hop Theatre

9 Medi 2025 - 10 Ebrill 2026

Platfform

Next Up Academy: Hip Hop Theatre

9 Medi 2025 - 10 Ebrill 2026

Mae Academi Next Up ‘nôl. Yn uwch. Yn fwy beiddgar. Ac yn fwy.

Mae Academi Theatr Hip-Hop Platfform yn barod i ddychwelyd, wyt ti’n barod i ymuno â’n mudiad?

P’un a wyt ti’n actor, awdur geiriau, DJ, dawnsiwr, artist, MC neu bît-bocsiwr, Academi Next Up yw dy lwyfan i hogi dy sgiliau a bod yn rhan o fudiad cynyddol o bobl ifanc sy’n defnyddio sgiliau hip-hop i adrodd straeon pwysig. Os yw mynegiant creadigol yn bwysig i ti, dyma dy lwyfan. 

BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS? 

Cam Un:

Sesiynau wythnosol a fydd yn pori drwy sgiliau hanfodol brêcddawnsio, graffiti, ‘MCing’ a bod yn DJ, yn ogystal â sut i ymgorffori sylfaeni a diwylliant hip-hop mewn perfformiad theatr

Gweithdai actio i uwchraddio dy sgiliau perfformio gyda darlleniadau sgript byw gan ddramodwyr a chyfarwyddwyr newydd

Cam Dau:

Ymarferion wythnosol gyda chyfarwyddwr theatrau, yn ogystal â sesiynau arbennig gyda symudiad a gweithredwyr MC.

Dau ddiwrnod o ymarferion dwys yn y gofod perfformio

Y cyfle i fod yn rhan o gynhyrchiad theatr cyntaf erioed Academi Next Up, cydweithrediad tair ffordd gyffrous rhwng Plant y Cymoedd, Canolfan Mileniwm Cymru a myfyrwyr o Academi Harris yn Peckham.

I BWY MAE’R DIGWYDDIAD?

Rhwng 14 a 25 oed? Mae hwn i ti. Mae Academi Next Up ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwthio ffiniau adrodd straeon drwy hip-hop a theatr.

Felly p’un a wyt ti’n dwli ar theatr ac eisiau rhoi cynnig ar sgiliau newydd, neu wrth dy fodd gyda hip-hop ac eisiau rhywle newydd i gydweithredu ac adrodd dy stori ar lwyfan, gall Academi Next Up dy helpu.

Amserlen:

Sesiynau wythnosol – ar ddydd Mawrth o 9 Medi i 31 Mawrth 6–8pm

2 ddiwrnod dwys – 17 ac 18 Chwefror 10am–5pm

Perfformiad- Dydd Gwener 10 Ebrill

Cofrestru

I gofrestru a chymryd rhan yn Next Up Academy Hip Hop Theatre, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch ni ar platfform@wmc.org.uk.

 

EIN CYRSIAU PLATFFORM 

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.

Platfform

Gweld popeth

Radio Platfform

Sgiliau Stiwdio Uwch

Platfform yn cyflwyno

Prosiect ELEV8

Untitled design (4)

Platfform

Archwilio Celf Weledol

Llais Hard Cor 4

Platfform

Next Up Academy: Hip Hop Theatre