Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Nikita Kuzmin – Midnight Dancer

9 Mawrth 2025

Theatr Donald Gordon

Mae’r pencampwr rhyngwladol a seren Strictly Come Dancing Nikita Kuzmin yn dod â’i sioe newydd sbon Midnight Dancer i’r llwyfan ar ei daith unigol gyntaf erioed ledled y DU ac Iwerddon.

Bydd cast Midnight Dancer yn cynnwys y dawnswyr Sophie Baker, Thomas Charles, Lowri Hamilton, Samuel Lake, Charlotte Lee, Zara Liu, Seamus Mcintosh, Daniel Rae ac Andreea Toma. Hefyd yn ymuno â’r cast mae’r gantores Rebecca Lisewski (Mamma Mia! West End, Taith ledled y DU The Spongebob Musical, Cabaret West End).

Mae Nikita Kuzmin yn eich gwahodd i ddawns stori dylwyth teg unigryw a noson yn llawn cerddoriaeth, secwinau a dawnsio o’r radd flaenaf.

Dilynwch uchafbwyntiau ac isafbwyntiau stori ramant glasurol, wrth i ddau gariad gwrdd cyn cael eu gwahanu. A fyddan nhw’n aduno yn y ddawns fwgwd, neu a fydd bywyd go iawn yn rhoi diwedd ar eu ffantasi stori dylwyth teg? Mae’r sioe ddawns newydd sbon yma yn stori Cinderella fodern ac mae’n cynnwys eich hoff anthemau dawns, gwisgoedd lliwgar a dawnsio ffrwydrol. Peidiwch â cholli’r seren ddawnsio o’r teledu Nikita Kuzmin fel erioed o’r blaen!

Cwrdd a Chyfarch VIP

Profwch Midnight Dancer fel Gwestai VIP gyda Thocyn Cwrdd a Chyfarch.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau VIP sy’n cynnwys un o’r seddi gorau sydd ar gael i Midnight Dancer a chyfle i gael llun cyn y sioe gyda Nikita (ar eich dyfais eich hun), poster wedi’i lofnodi a laniard VIP y Daith.

Bydd y sesiwn Cwrdd a Chyfarch VIP yn digwydd am 5.30pm. Rhaid i ddeiliaid tocynnau VIP gyrraedd 30 munud cyn y dechrau oherwydd mae’n bosibl na fydd hwyrddyfodiaid yn cael mynediad. 

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: Noder bydd y perfformiad hwn yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon