Breuddwyd un dyn o'r GIG, gyda Michael Sheen.
O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog.
Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Nye yn ei arwain ar daith ryfeddol yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill mewn ffantasia Gymreig epig.
"A taut and fluid triumph"
Mae Michael Sheen (Good Omens) yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph). Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a'i chyfarwyddo’n ddisglair (★★★★ Times) gan Rufus Norris (Small Island), mae’r dathliad yma o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl gwerthu pob tocyn yn 2024.
Cyd-gynhyrchiad National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru
"Throughout it all, Sheen burns with genuine passion"
“What an incredible performance from the master Michael Sheen... Go see it”
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: 2 awr 40 munud yn cynnwys un egwyl
Rhybuddion: Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i leoli mewn ysbyty ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at gyflyrau a thriniaethau meddygol. Mae hefyd yn cynnwys iaith gref.
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar Llun 25 Awst (2 bris uchaf)
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Llun - Iau)
16–30
Gostyngiad o £8 (3 bris uchaf, Llun - Iau)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.