Mae’r Satin Dollz yn cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u sain ‘big band’, eu harmonïau ysblennydd, a’u carisma pur.
Mae Pinup Revolution yn addo noson gofiadwy. Bydd y gynulleidfa wrth eu bodd â pherfformiad chwareus y Dollz a chyn diwedd y sioe bydd pawb yn awyddus i ddawnsio a morio canu gyda nhw.
Dewch i fwynhau caneuon poblogaidd o’r 1940au a’r 50au, caneuon fydd yn mynd â chi ar daith yn ôl i oes euraidd cerddoriaeth ‘swing’, gyda thamaid o ddireidi cyfoes ac ambell i syrpreis ar hyd y ffordd.
Sylfaenwyd y grŵp yn wreiddiol yn Hollywood, California yn 2005. Yn 2016 fe ledaenodd y Satin Dollz eu byddin “pin up” i Lundain a Pharis, a bellach mae ganddynt adrannau ledled y byd, gan gynnwys Rhufain, Nashville ac Efrog Newydd..
Mae’r teulu rhyngwladol yma o dros 90 o ddoniau canu oes euraidd yn adnabyddus o’u fideos TikTok poblogaidd; dilynwch nhw ar-lein – @satindollz.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Free tickets for carers and companions. Find out more about the Hynt access scheme.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.