Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Archwilio Darlledu Radio gyda Radio Platfform

Canolfan Mileniwm Cymru

28 Mai - 29 Mai 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Archwilio Darlledu Radio gyda Radio Platfform {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2578

Platfform

Archwilio Darlledu Radio gyda Radio Platfform

28 Mai - 29 Mai 2025

Canolfan Mileniwm Cymru

Hyfforddiant Radio Platfform dwys AM DDIM i bobl 11–14 oed!

Barod i ddatgelu dy greadigrwydd a gwneud dy farc yn y byd radio a phodlediadau? Ymuna â ni am gwrs hyfforddi dwys dau ddiwrnod yn ein stiwdios Radio Platfform yng Nghaerdydd – ac mae’r cwbl AM DDIM!

Darganfydda sut i greu rhaglenni radio a phodlediadau; dysga am yr ystod amrywiol o gynnwys radio; meistrola sut i ddod o hyd i a chreu straeon newyddion cymhellol; ac uwchraddia dy recordiadau i safonau ansawdd proffesiynol.

Byddi di’n cael profiad ymarferol o gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sy’n tanio dy frwdfrydedd. P’un a wyt ti eisoes yn dwli ar radio a phodlediadau neu’n rhoi cynnig ar y cyfrwng am y tro cyntaf, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i dy rymuso a dy ysbrydoli ar bob cam o’r ffordd, waeth beth yw lefel dy brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs yma, byddi di’n aelod o Radio Platfform ac yn recordio dy sioeau dy hun yn ein stiwdios ym Mhorth a Chaerdydd.

Os yw'r cwrs hwn wedi'i werthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn yn cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM 

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru