Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

LLAIS

Poesis

Cabaret

11 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Poesis {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2703

LLAIS

Poesis

11 Hydref 2025

Cabaret

Drysau'n agor: 7.30pm | Amser dechrau: 8pm

Yn dod â phedwar artist sy’n gwthio ffiniau ynghyd – un o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban – comisiwn newydd yw Poesis a gafodd ei greu o’r rhaglen datblygu doniau lwyddiannus Take Five dan arweiniad Serious. 

Yn y cydweithrediad unigryw yma, mae’r artistiaid yn gwau themâu cydgysylltiad, ffiniau ac iaith fel trothwyon. Gyda seinweddau byw, fersiynau newydd o ganeuon gwerin traddodiadol, alawon byrfyfyr a lleisiau wedi’u trin, mae’r perfformiad yn pylu’r llinellau rhwng y gorffennol a’r presennol, lle a chanfyddiadau.

Lein-yp

Lulu Manning

Artist a chyfansoddwr yw Lulu Manning a gafodd ei geni yng Nglasgow ac sydd bellach yn byw yn Llundain. Mae’n aml yn ysgrifennu cerddoriaeth araf sy’n cynnig lle i’r gwrandawyr leoli eu hunain yn y gwaith. Cerddoriaeth sy’n newid mewn ffyrdd ysgafn ac sy’n gwahodd hunanholi. Mae Lulu yn mwynhau archwilio gweadedd gwahanol sain; gan osod prosesau ymddatod a thrawsgyweirio tu blaen fel nodweddion allweddol o’i gwaith. 

Cafodd blynyddoedd ffurfiannol Lulu ei ffurfio drwy dyfu i fyny yng Nglasgow ymhlith creadigrwydd brwd ac ethos DIY’r ddinas. Symudodd i Lundain i astudio jazz a cherddoriaeth fyrfyfyr, a thrwythodd y profiad cefndir yma ei gwaith diweddar mewn cyfansoddi arbrofol a sain amgylchynol. 

Y llynedd, cafodd ei gwaith cyfansoddi ei berfformio yn Amgueddfa V&A Llundain yn y gwaith amlddisgyblaethol ‘Queering The Mind; Releasing The Body’. Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer Sioe Ffasiwn S/S ’25 Loverboy yn Somerset House yn Llundain a chyrhaeddodd restr fer y wobr Cyfansoddi Jazz gan yr Arts Foundation yn 2024.  

Xhosa Cole

Mae Xhosa Cole yn un o sêr datblygol y byd jazz Prydeinig. Ar ôl ennill gwobr BBC Young Jazz Musician of the Year yn 2018, aeth Xhosa ymlaen i ennill nifer o wobrau eraill ac ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â pherfformwyr mawr jazz. 

Mae diddordeb Xhosa mewn chwaraewyr o ystod o draddodiadau gwahanol, ynghyd â’i gysylltiad cryf â’i gymuned ym Mirmingham, wedi helpu i ddatblygu llais unigryw ac annibynnol ffyrnig. 

Claire Victoria Roberts

Cyfansoddwr, cantores a feiolinydd yw Claire Victoria Roberts, sy’n pylu ffiniau genres jazz, clasurol a gwerin. Mae’r artist o Gymru yn defnyddio ei dylanwadau amrywiol drwy leisio byrfyfyr, cerddoriaeth ffidil Geltaidd ac arddulliau jazz a chlasurol telynegol.  

Conor McAuley

Mae’r drymiwr a threfnydd byrfyfyr o Felfast Conor McAuley yn un o dri aelod Córas Trio, sy’n rhan o don greadigol newydd o gerddorion ym Melfast sy’n archwilio sut mae cerddoriaeth draddodiadol yn gysylltiedig â phrofiad yr 21ain ganrif. Gan herio syniadau am buryddiaeth ddiwylliannol, maen nhw’n sgubo llinellau arferion cerddorol cyfoes, yn ddi-ofn ac anymddiheurol wrth iddyn nhw archwilio syniadau newydd.  

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

O dan 30

Gostyngiad o £3

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Cabaret