Bydd y darlunydd a gwneuthurwr printiau Aidan Saunders yn dod â’i Wagen Brintio i Llais eleni fel y gallwch chi wneud eich print torlun leino eich hun â thema cerddoriaeth.
I gymryd rhan, ewch i’n siop Armadilo yng nghyntedd Glanfa a phrynwch daleb i’w rhoi i Aidan yn y Wagen Brintio.
Aidan Saunders
Darlunydd a gwneuthurwr printiau yw Aidan Saunders a deithiodd y Deyrnas Unedig a rhannau o Ewrop yn pwyso torluniau leino ac yn cynnal gweithdai creu printiau dros dro o gefn ei ‘Wagen Brintio’, gan gynnig profiad unigryw sy’n ceisio addysgu a diddanu cynulleidfaoedd am hud creu printiau.
Gyda’r Printhaus, Aidan yw cyd-sylfaenydd ‘Printed Festival’, gŵyl print fwyaf Cymru, sy’n ceisio rhoi llwyfan i wneuthurwyr printiau, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol.
Mae Aidan Saunders hefyd yn rhedeg ‘Prints of Hay, siop sy’n arddangos ei waith.
Amser: 12pm – 10pm
Pris: £7
Canllaw oed: Bob oedran