Ar ein 10 mlwyddiant, mae WOW, Côr ‘Wales One World’ – Côr Oasis One World gynt – yn falch i gyflwyno ‘Rising Tide’ yn Llais.
Darn arloesol ac ymdrochol sy’n cyfuno caneuon, dawnsio a gair llafar sy’n dathlu lleisiau, diwylliannau a straeon pobl sy’n ceisio lloches.
Gan gydweithio gyda’r artist amlddisgyblaethol Ffion Campbell-Davies ac yn cynnwys yr offerynnwr taro rhyngwladol Beibei Wang, mae ‘Rising Tide’ yn dod â phobl ynghyd ac yn rhannu llawenydd heintus.
Ers degawd, mae Oasis One World Choir wedi bod yn gymorth i bobl sy’n ceisio lloches yng Nghaerdydd.
Wrth wynebu ailddechrau eu bywydau mewn gwlad anhysbys, maen nhw hefyd yn aml yn wynebu iaith sy’n gwbl newydd. Ac eto mae cerddoriaeth yn mynd uwchlaw’r rhwystrau yma, gan helpu pobl i wneud ffrindiau a meithrin cymuned gyda’i gilydd, gan roi llais i’n haelodau, ac iaith i’w rhannu, yn eu cartref newydd.
Amser dechrau: 6pm
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £2
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.