Drysau'n agor: 7pm | Amser dechrau: 7.30pm (Dim cefnogaeth)
Mae Rufus Wainwright, sydd wedi’i ganmol gan y New York Times am ei “wreiddioldeb gwirioneddol,” wedi sefydlu ei hunan fel un o gantorion, cyfansoddwyr a sgwenwyr caneuon gwrywaidd gorau ei genhedlaeth.
Hyd yn hyn, mae'r canwr-gyfansoddwr gafodd ei eni yn Efrog Newydd a'i fagu ym Montreal wedi rhyddhau deg albwm stiwdio, tair DVD, a thair albwm fyw gan gynnwys Rufus Does Judy at Carnegie Hall a enwebwyd am wobr GRAMMY®. Mae wedi cydweithio ag artistiaid fel Elton John, Burt Bacharach, Miley Cyrus, David Byrne, Boy George, Joni Mitchell, Pet Shop Boys, Heart, Carly Rae Jepsen, Robbie Williams, Jessye Norman, Billy Joel, Paul Simon, Sting, a'r cynhyrchydd Mark Ronson, ymhlith llu o rai eraill. Mae wedi ysgrifennu dwy opera a chaneuon niferus ar gyfer ffilm a theledu.
Mae ei albwm stiwdio o ganeuon gwreiddiol, Unfollow the Rules, a enwebwyd am wobr GRAMMY® yn 2020, yn dangos Wainwright yn anterth ei alluoedd, wedi aeddfedu’n artistig gydag angerdd, gonestrwydd, ac eofndra newydd. Yn 2023, cychwynnodd ar daith tuag at wreiddiau gwerin ei deulu gyda’i albwm Folkocracy, a enwebwyd am wobr GRAMMY®, oedd yn cynnwys deuawdau gwerin wedi’u hail-ddyfeisio gydag artistiaid fel Chaka Khan, Brandi Carlile, John Legend ac Anohni a llawer mwy.
Perfformiwyd ei sioe gerdd gyntaf o ffilm John Cassavetes, Opening Night, ar gyfer y West End gydag Ivo van Hove am y tro cyntaf yn Theatr Gielgud ym mis Mawrth 2024. Dyma’r cyfnod hefyd pan gwblhaodd ei Dream Requiem, a berfformiwyd am y tro cyntaf gyda’r Orchestre Philharmonique de la Radio France ym mis Mehefin 2024 gyda Meryl Streep fel y storïwr. Rhyddhawyd y recordiad o'r perfformiad drwy label Warner Classics ym mis Ionawr 2025. Cyd-gomisiynwyr y Dream Requiem yw'r Master Chorale yn Los Angeles, y Palau de la Música ym Marselona, Cerddorfa Symffoni Helsinki, Cerddorfa RTÉ yn Iwerddon, a'r Bale Brenhinol yn Llundain. Cafodd ei requiem ei berfformio yn UDA am y tro cyntaf yn Walt Disney Concert Hall yn Los Angeles ym mis Mai 2025, gyda Jane Fonda fel yr adroddwr.
Drysau'n agor: 7pm
Amser dechrau: 7.30pm (Dim artist cefnogol)
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.