Sioe rifiw drag aflafar, gwyllt a phryfoclyd yw Send In The Clowns, sy’n dathlu hud a gwiriondeb theatr gerdd.
Y tro yma mae’r Clowns yn ymgymryd â’r SIOE GERDD ROC (ac weithiau rôl), gyda dathliad/llofruddiad o fyd caled theatr gerdd, yn eu sioe fwyaf cywilyddus eto, C*CK OF AGES. Gallwch chi ddisgwyl fersiynau unigryw o RENT, Rock Of Ages, The Rocky Horror Show, Jesus Christ Superstar, We Will Rock You, Hair a Grease ymhlith eraill.
Ymunwch â’ch cyflwynydd, y seren cabaret ac enillydd Drag Idol UK Fatt Butcher ochr yn ochr â lein-yp anhygoel o ddoniau drag a cabaret gorau canolbarth Lloegr, gan gynnwys Dahliah Rivers, Blü Romantic ac Alanna Boden.
Mae Send In The Clowns: C*CK OF AGES, sy’n dod yn ddigwyddiad cwlt ym Mirmingham yn gyflym, ac ar ôl taith o’r DU yn 2024 a werthodd allan, yn addo sioe fythgofiadwy ac aflafar yn llawn comedi cywilyddus, lleisiau byw anhygoel, cabaret camp, meimio a chanu torfol. Mae pob sioe yn gorffen gyda’n ‘sioe gerdd ugain munud’ na ddylech chi ei cholli, fersiwn drag o sioe gerdd enwog sy’n cael ei hymarfer mewn dau ddiwrnod a’i pherfformio mewn 20 munud neu lai - beth allai fynd o’i le?!
"It's vulgar, it’s audacious, it’s bordering on libel at times, but my god is it a riot… Genius!"
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.