Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

LLAIS

Sesiwn Dydd Sadwrn: Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré, Trio Da Kali

Theatr Donald Gordon

11 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Sesiwn Dydd Sadwrn: Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré, Trio Da Kali {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2647

LLAIS

Sesiwn Dydd Sadwrn: Ibibio Sound Machine, Vieux Farka Touré, Trio Da Kali

11 Hydref 2025

Theatr Donald Gordon

Drysau'n agor: 4.30pm | Amser dechrau: Trio Da Kali 5pm  Vieux Farka Touré 7pm  Ibibio Sound Machine 9pm

Paratowch ar gyfer Sesiwn dydd Sadwrn – lle mae leisiau anhygoel yn uno o dan yr un to. Tri band, un tocyn, un noson fythgofiadwy.

Ibibio Sound Machine

Mae Pull the Rope, y record ddiweddaraf gan Ibibio Sound Machine, yn dangos ochr newydd i’r grŵp a arweinir gan Eno Williams a Max Grunhard.  Mae gobaith, llawenydd a rhywioldeb eu cerddoriaeth yn parhau, ond, gan fireinio awch Electricity, eu halbwm clodwiw o 2022, mae’r cysylltiad y maent am ei greu wedi symud lleoliad. O fywiogrwydd a disgleirdeb gŵyl llawn heulwen i glwb dawns chwyslyd gydol nos. Mae’r awyrgylch wedi newid, ond rydych chi’n dal i gael amser rhagorol.

Vieux Farka Touré

Cyfeirir yn aml ato fel “Hendrix y Sahara”, fe anwyd Vieux Farka Touré yn Niafunké, Mali ym 1981. Mae’n fab i’r chwaraewr gitâr adnabyddus o Mali, Ali Farka Touré, a fu farw yn 2006. Fe ryddhaodd ei albwm diweddaraf Les Racines yn 2022, ochr yn ochr â record gydweithredol â Khruangbin, Ali. Mae Ali yn talu teyrnged i waith ei dad gyda dehongliadau newydd o uchafbwyntiau adnabyddus ac ochrau B o’i ôl-gatalog.

Trio Da Kali 

Yn disgyn o linell hir o griots nodedig (cerddorion etifeddol arbenigol) yn niwylliant Mandé de Mali, mae’r artistiaid nodedig hyn yn perfformio un o arddulliau mwyaf cynnil ac aruchel Affrica. Daw Trio Da Kali â thro creadigol newydd i synau hynafol, gan gyfuno llais, bas ngoni, a balafon. Mae llawer o’u repertoire wedi mynd yn angof neu wedi’i esgeuluso, ond mae’n cynrychioli diwylliant cerddorol sydd wedi goroesi dros ganrifoedd lawer. Maent wedi teithio a recordio albwm arobryn gyda Kronos Quartet. 

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)

Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, BBC Canwyr y Byd Caerdydd: Dathliad na Ceci est mon coeur.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon