Ysgarwyd. Dienyddiwyd. YN FYW!
Mae’r sioe gerdd lwyddiannus ryngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl gwerthu pob tocyn tro diwethaf!
Gyda Gwobr Tony 2022 am y ‘Sgôr Gwreiddiol Orau’ a’r ‘Dyluniad Gwisgoedd Gorau’, Gwobr Whatsonstage 2022 am y ‘Sioe West End Orau’ ac albwm sydd wedi ennill Disg Aur, mae neges gref a bwerus gan y sioe Duduraidd yma ac mae’n adloniant pur.
“CAPTIVATING AND EXHILARATING. DO YOURSELF A FAVOUR AND GO AND PARTY WITH SIX. YOU WON’T REGRET IT!”
O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn gafael yn y meic i adrodd eu hanesion, gan gydblethu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yr 21ain ganrif. Efallai fod gan y breninesau yma lewys gwyrdd ond mae eu lipstic yn goch gwrthryfelgar.
Meddwl eich bod chi’n gwybod yr odl Saesneg? Meddyliwch eto…
Ysgarwyd. Dienyddiwyd. YN FYW!
Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref + goleuadau strôb
Amser dechrau:
Maw, Mer, Iau 8pm (heblaw am nos Fercher 5 Tach 8.30pm)
Gwe 6pm + 8.30pm
Sad 4pm + 8pm
Sul 2pm
Hyd y perfformiad: Tua 80 munud (dim egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth
GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe). Dyddiad talu 2 Mehefin 2025.
Trefnu ymweliad grŵp
16-30
Gostyngiad o £8 ar sedddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe), nifer cyfyngedig
O DAN 16
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe)
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.