Mae Matthew Bourne's Swan Lake yn dychwelyd i ddathlu ei 30 mlwyddiant gyda thaith o'r DU yn 2024/25.
Gwnaeth ailddychmygiad mentrus a beiddgar Matthew Bourne o gampwaith Tchaikovsky greu cyffro pan agorodd bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae bellach wedi dod yn un o’r cynyrchiadau theatr dawns fwyaf llwyddiannus erioed, gan greu cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli cenedlaethau o ddawnswyr ifanc. I ddathlu’r effaith barhaus honno, bydd Swan Lake yn dychwelyd unwaith eto mewn adfywiad newydd mawr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr, ac i gynulleidfaoedd a fydd yn ei brofi am y tro cyntaf erioed.
SEE IT! Or live to regret it
Mae’r digwyddiad arloesol yma, sy’n gyffrous, yn anturus, yn ffraeth ac yn emosiynol, yn fwyaf adnabyddus o hyd am newid y corps-de-ballet benywaidd i ensemble gwrywaidd bygythiol, a chwalodd confensiwn a thraddodiad.
Ar ôl cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn Llundain yn 1995, ysgubodd Matthew Bourne’s Swan Lake y byd theatr; dyma’r clasur dawns hyd llawn sydd wedi rhedeg am y cyfnod hiraf yn y West End ac ar Broadway. Ers hynny mae wedi cael ei berfformio ledled y byd, gan gasglu dros 30 o anrhydeddau rhyngwladol gan gynnwys Gwobr Olivier am y Cynhyrchiad Dawns Newydd Gorau a thair Gwobr Tony am y Cyfarwyddwr Gorau o Sioe Gerdd, Coreograffi Gorau a Dyluniad Gwisgoedd Gorau.
The show that changed the dance landscape FOREVER
Still THRILLING new generations. TERRIFIC





Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: i'w gadarnhau
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau
Dyddiad talu grwpiau: 20 Ionawr 2025
YSGOLION
£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464)
Ar gael Maw – Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig
POBL O DAN 16 OED + MYFYRWYR
Gostyngiad o £5, Maw – Iau
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd