Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.
Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy’r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o’r wal arysgrif enwog.
Ar ôl y daith, treuliwch amser yn mwynhau ein gofodau blaen y tŷ, ein pensaernïaeth a’n gwaith celf, a gwyliwch y byd yn mynd heibio o Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod. Bydd eich cinio blasus, coffi neu gacen ffres yn blasu cymaint yn well o wybod eich bod yn cael gostyngiad o 10% drwy ddangos eich tocyn taith. Gallwch hefyd ymweld ag Armadilo, ein Siop theatr, lle byddwch hefyd yn mwynhau 10% oddi ar y pris gyda'ch tocyn — perffaith ar gyfer codi anrheg neu gofrodd unigryw.
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
O 3 Hydref 2025 ymlaen, bydd mynychwyr y daith yn derbyn bag rhodd am ddim gan CMC, ynghyd â llyfr nodiadau a beiro. Noder: Nid yw grwpiau ysgol yn gymwys ar gyfer y bag rhodd.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
Amser dechrau: Dydd Gwener 10am, 11.30am, 1pm. Dydd Sul 10:30am.
Dylech chi gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser dechrau eich taith. Byddwch yn cwrdd wrth ein Desg Gwybodaeth, wedi ei leoli ar bwys Grisiau B ar y llawr waelod.
Hyd y daith: tua 1 awr
Iaith: Saesneg. Gallwch archebu teithiau Cymraeg yma.
Nodwch gan fod Ganolfan Mileniwm Cymru yn theatr weithiol brysur, efallai y bydd rhaid i ni dynnu allan ambell ran o’r daith o bryd I'w gilydd er iechyd a diogelwch cwsmeriaid.
GRWPIAU
Gostyngiad o £2 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
YSGOLION
£6 – un tocyn athro am ddim gyda phob 9 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu e-bostiwch gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk i archebu)
Gall ysgolion a grwpiau o 10+ hefyd gysylltu â ni i ofyn am daith ar ddyddiad neu amser arall i'r rhai sy’n cael eu hysbysebu, yn amodol ar argaeledd. Rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd.