Gan chwarae caneuon adnabyddus, ond mewn ffordd wahanol, bydd The Alternative Cabaret yn mynd â chi ar wibdaith o Grwpiau Bechgyn a Grwpiau Merched.
O’r Bee Gees a’r Supremes, i One Direction a Little Mix, gyda digonedd o Take That a Spice Girls, i enwi ond ambell grŵp!
Ymunwch â ni, ynghyd â rhai o ddoniau llais ac offerynnol gorau Cymru, am noson o gerddoriaeth fyw unigryw. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn chwarae’n fyw. Dim trac sain cefndirol, dim autotune. Dim ond ein hofferennau a’n lleisiau.
Pwy fydd yn cyrraedd y brig yn y frwydr y bandiau gwbl unigryw yma?
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.