Ers talwm, mewn gwlad bell bell i ffwrdd, roedd pawb yn ddrwg iawn, iawn.
Mae Clwb Cabaret Caerdydd yn cyflwyno The Big Burlesque Panto, sioe ddisglair yn llawn bwrlésg, drag, comedi ac actau cabaret ar thema pantomeim.
Cewch eich cyfareddu gan gymeriadau gwallgof a rhyfedd o Cinderella i’r Frenhines Ddrwg – y tro? Yn y llyfr straeon yma, mae pawb yn gwbl faleisus.
Yn cynnwys rhai o’r arwyr cabaret gorau o Gymru a thu hwnt.
Ymunwch â Wolfy, y cyflwynydd doniol sy’n canu a chast anhygoel gan gynnwys Ebony Silk, Sandy Sure, FooFooLaBelle, Goldie Luxe, Lili Del Fflur, It’s Llywelyn a Matt Hazzard, wrth iddyn nhw berfformio ochr yn ochr â chwmni Clwb Cabaret Caerdydd am noson o giamocs panto digri!
Amser dechrau: 3pm / 8pm, Drysau 30 minied cyn
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni posibl, golau fflachio a strôb a bangiau uchel.
SEDDI PREMIWM
Archebwch ein Seddi Premiwm i warantau chi lle agos at y llwyfan a gwydraid o ddiod am ddim.
£25 y sedd
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret