Yn dilyn rhediad a werthodd allan yng Nghaeredin y llynedd, mae’r darluniau cyhyrog sy’n gweithio’n hynod galed mewn adloniant ar sail alcohol ‘nôl… gyda strafagansa gerddorol newydd sbon sy’n cynnwys pum diod am ddim i bob aelod o’r gynulleidfa!
Eisteddwch yn ôl a rhyfeddu wrth i’r arbenigwyr diodydd arobryn gychwyn ar genhadaeth gerddorol canu a dawnsio i brofi mai’r dafarn, ac yn wir alcohol, yw conglfeini gwareiddiad.
Yng nghwmni cantorion talentog y West End Flat and the Curves, mae Ben a Tom (The Thinking Drinkers) yn codi llwnc destun i goctel cryf a doniol o gymeriadau hanesyddol yn y sesiwn yfed ar ôl oriau orau a mwyaf meddwol eich bywyd.
"Great fun as always and another chance to sample some excellent drinks."
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Cyfyngiad oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.