Hwb Ida yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn dod â menywod, pobl anneuaidd a phobl draws at ei gilydd sy’n gweithio – neu sy’n awyddus i weithio – mewn technolegau ymdrochol.
Bydd y digwyddiad yma yn canolbwyntio ar yr heriau emosiynol a meddyliol sy’n aml yn cyd-fynd â dechreuadau newydd fel newid gyrfa neu weithio mewn diwydiannau newydd. Ochr yn ochr â sgyrsiau gan ein siaradwyr gwadd, byddwn ni’n archwilio rhai o’r heriau sy’n codi gyda dechreuadau newydd. Bydd y themâu yn cynnwys:
- Hunan-danseilio: ailfframio eich ffordd o feddwl a cheisio cymorth.
- Syndrom y ffugiwr: dathlu eich cynnydd a nodi eich cyflawniadau.
- Ofn bod eich hun ac yn ddilys: herio eich rhagdybiaethau a myfyrio ar eich gwerthoedd.
P’un a ydych chi’n newydd i dechnolegau ymdrochol neu’n weithiwr profiadol, dyma gyfle i fagu hyder, rhannu gwybodaeth a chysylltu â chymuned gefnogol a chynhwysol.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle am ddim drwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen yma i fynd i’n tudalen archebu Eventbrite.




Cwestiynau Cyffredin
Oes llefydd parcio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?
Does dim llefydd parcio ar y safle, ond mae digonedd o opsiynau parcio ym Mae Caerdydd; yr agosaf yw Q-Park.
Ga i ddod â fy mhlant gyda mi?
Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at bobl 18+, fodd bynnag os ydych chi’n rhiant ac mae cyfrifoldebau gofal plant yn eich rhwystro rhag dod, rhowch wybod i ni ymlaen llaw a byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.
Oes angen i mi gadw sedd?
Ni fydd seddi wedi’u cadw. Rydyn ni’n cynghori grwpiau mawr i gyrraedd yn gynnar fel y gallwch chi ddod o hyd i seddi gyda’i gilydd.
Amser y digwyddiad: 1pm - 3.30pm
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni: Ida.hwb@wmc.org.uk
Am dim