Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Journey Back

Profiad realiti rhithiwr (VR) am ddim

Bocs

Tan 2 Mawrth 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The Journey Back {{::on_sale_date.label}} Bocs MM/DD/YYYY 15 event-2455

Bocs

The Journey Back

Profiad realiti rhithiwr (VR) am ddim

Tan 2 Mawrth 2025

Bocs

Mae’r arddangosfa yma yn dangos tair rhaglen ddogfen VR deimladwy, gyda phob un yn adrodd straeon emosiynol ond ysbrydoledig tri o oroeswyr yr Holocost, sef Marion Deichmann, Rodi Glass a Doris Fogel.

Bydd y gynulleidfa yn cael eu hymdrochi yn straeon y goroeswyr drwy gymysgedd arloesol o dechnoleg ac emosiwn, gan gamu i mewn i fywyd rhywun arall a deall eu taith ar lefel hynod bersonol.

Creodd East City Films y ffilmiau pwerus yma mewn cydweithrediad â Chanolfan Addysg ac Amgueddfa Holocost Illinois. Wedi'u cyfarwydo gan yr artistiaid VR o'r DU Mary Matheson, Charlotte Mikkelborg a Darren Emerson. Enillydd gwobr Effaith Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau XR 2024.

Letters From Drancy

Drwy fideo 360° a sain ofodol, caiff cynulleidfaoedd eu hymdrochi yn atgofion Marion Deichmann, sy’n 9 mlwydd oed, wrth iddi adrodd ei thaith feiddgar fel plentyn ar draws ffiniau Gogledd Ewrop. Wedi’i gwahanu wrth ei theulu yn anrhefn rhyfel, goroesodd Marion diolch i ddewrder a charedigrwydd pobl ddieithr. Yn y pen draw, stori am gariad a cholled yw hon, a’r cysylltiad amhosibl ei dorri rhwng mam a merch. 

Walk to Westerbork

Teithiwch gyda Rodi Glass drwy Amsterdam, Westerbork a Vittel mewn stori am oroesi, gwydnwch a chariad. Gydag effeithiau gweledol ymdrochol, sain 360° ac archifau teulu, mae’r ffilm yma yn amlygu’r trasiedi o golli 75% o Iddewon Iseldiraidd yn ystod yr Holocost.

Escape to Shanghai

Profiad realiti rhithwir yw Escape to Shanghai sy’n dilyn taith epig Doris Fogel o’r Almaen Natsïaidd i Shanghai, Tsieina, wrth i’w theulu greu cartref dros dro a bywyd newydd i ffwrdd o’r arswyd a oedd yn digwydd yn Ewrop dan reolaeth y Natsïaid.

Crëwyd The Journey Back: A VR Experience gan Ganolfan Addysg ac Amgueddfa Holocost Illinois mewn cydweithrediad ag Easy City Films, ac mae’n bosibl diolch i gefnogaeth hael Menter Technoleg Fyd-Eang Teulu Kimberly Duchossois

Amseroedd agor: 
Ar agor yn ddyddiol o 11am gyda slotiau amser bob awr.
Cliciwch ar ‘Dod o hyd i docynnau’ i weld amseroedd manwl a’r argaeledd presennol.

Hyd y profiad: 
1 awr. Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau eich sesiwn

Canllaw oed: 10+ 
Ni argymhellir VR i blant o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Oes, mae hwn yn brofiad realiti ymdrochol sydd â nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch ymlaen llaw i osgoi siom ar y diwrnod.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 10 oed. Ewch i dudalen gwybodaeth am ddiogelwch Meta Quest i gael rhagor o wybodaeth.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth

Bocs

The Journey Back

Profiad realiti rhithiwr (VR) am ddim

Rhwydwaith Ida: Cyfarfod Caerdydd

Am dim