Oherwydd newid annisgwyl yn yr amserlen berfformio, mae'r perfformiad Iaith Arwyddion Prydain o The Last Laugh ar ddydd Iau 14 Awst 2025 am 7.30pm wedi'i ganslo.
Yn syth o'r West End, mae The Last Laugh yn ddrama ddoniol newydd sbon sy’n ailddychmygu bywydau tri o ddigrifwyr gorau erioed Prydain – Tommy Cooper, Eric Morecambe a Bob Monkhouse.
Yn llawn jôcs gwych a straeon ingol, mae The Last Laugh yn sioe hiraethus a theimladwy ac yn sicr o fod yn noson gomedi orau Caerdydd.
“Comedy heaven! Immaculate…Gags galore!”
Ysgrifennwyd a chyfarwyddir The Last Laugh gan yr arobryn Paul Hendy, ac yn ymddangos mae Bob Golding fel Morecambe, Simon Cartwright fel Monkhouse a Damian Williams fel Cooper.
"The best thing I have ever seen in a theatre"
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref
Amser dechrau:
Maw– Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: 90 munud heb egwyl
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth
GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe). Dyddiad talu i'w gadarnhau.
Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £4 ar seddi dethol, Maw – Iau
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi dethol, Maw – Iau
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy