Mae dros 40 o ysgolion theatr, cantorion a grwpiau lleol yn uno ar gyfer sioe arddangos fawreddog o gelfyddydau perfformio ieuenctid.
Dros pedair noson yn olynol, mae’r cynhyrchiad bywiog yma yn dathlu’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr a bydd yn cynnwys cantorion unigol, grwpiau theatr gerdd a drama, dawnswyr stryd a hip-hop, dawnswyr ballet, codwyr hwyl, gymnastwyr, dawnswyr Gwyddelig, neuadd a Lladin ac amrywiaeth o dap, modern a jazz o’r ysgolion dawns a drama lleol gorau.
Gyda doniau ifanc rhyfeddol, goleuadau disglair ac effeithiau gweledol syfrdanol, mae hon yn sioe na ddylech chi ei cholli!
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd
Amser dechrau: 7pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.