Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Theatre Makers: What Happens Next

16 Medi - 28 Hydref 2025

Platfform

Theatre Makers: What Happens Next

16 Medi - 28 Hydref 2025

GALWAD AM DDRAMODWYR, CYFARWYDDWYR AC ACTORION!

Ceisio Nawr

Beth Sy’n Digwydd Nesaf? 

Beth fyddai’n digwydd pe bai’r gynulleidfa yn gallu helpu i benderfynu canlyniad drama, pe bai dramodwyr yn atebol am bob eiliad o’u stori? Beth fyddai’n digwydd pe bai sawl safbwynt yn cael eu cynnwys ym mhob cam o’r broses greadigol? Os hoffet ti wybod, dere i wylio.  

Rydyn ni’n chwilio am ddramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion i fod yn rhan o’r prosiect 7 wythnos cyffrous yma. Does dim angen profiad theatr, ond mae brwdfrydedd dros adrodd straeon yn hanfodol. 

MANYLION Y PROSIECT: 

Wyt ti erioed wedi bod i weld drama a meddwl y byddet ti wedi ei hysgrifennu yn wahanol? Mae Beth Sy’n Digwydd Nesaf yn brosiect sy’n dechrau gyda chwe dramodydd yn ysgrifennu pum munud cyntaf drama. Mae’r pum munud yma yn dod yn fyw gyda chymorth cyfarwyddwyr ac actorion ar gyfer cynulleidfa, sydd yna yn ateb y cwestiwn, beth sy’n digwydd nesaf?  

Yna, wedi’u dylanwadu gan ymatebion y gynulleidfa, bydd y dramodwyr yn cael 48 awr i barhau â’u straeon, gan ysgrifennu’r pum munud nesaf. Yna caiff y rhain eu profi gan yr un gynulleidfa yr wythnos ganlynol, lle y byddan nhw wedyn yn ateb yr un cwestiwn, beth sy’n digwydd nesaf? Dros gyfnod o 7 wythnos, gyda mewnbwn dramodwyr, cyfarwyddwyr, actorion a chynulleidfaoedd, bydd chwe darn newydd sbon o theatr 30 munud o hyd yn cael eu datblygu.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am Beth Sy’n Digwydd Nesaf neu’r ffurflen gais, mae croeso i ti e-bostio platfform@wmc.org.uk

Rydyn ni hefyd yn chwilio am gynulleidfaoedd sy’n awchus am stori. Os wyt ti’n awyddus i ymuno â ni, archeba dy docynnau drwy ein tudalen Eventbrite (ar werth yn fuan). 

EIN CYRSIAU PLATFFORM 

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.

Platfform

Gweld popeth

Elev8 yn Cyflwyno

Archwilio Cynhyrchu Cerddoriaeth

PLATFFORM

Dosbarth Meistr Radio Platfform

Cymysgu'n Fyw, Dosbarth Meistr DJ

Platfform

Radio Platfform

Sgiliau Stiwdio Uwch

Llais Hard Cor 4

Platfform

Next Up Academy: Hip Hop Theatre

Platfform

Theatre Makers: What Happens Next