Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

To Kill A Mockingbird

Theatr Donald Gordon

25 - 29 Tachwedd 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London To Kill A Mockingbird {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2499

To Kill A Mockingbird

25 - 29 Tachwedd 2025

Theatr Donald Gordon

Creodd addasiad arobryn a gafaelgar Aaron Sorkin o’r nofel Americanaidd arloesol am anghyfiawnder hiliol a diniweidrwydd plentyndod stŵr ar Broadway a’r West End gyda thymhorau a werthodd allan ar ddwy ochr yr Iwerydd. Nawr mae’r ddrama ystafell llys yma yn mynd ar daith o’r DU ac Iwerddon am y tro cyntaf erioed.

Mae’r cyfreithiwr llwyddiannus Atticus Finch yn annog ei blant i ddangos caredigrwydd ac empathi, ond mae’n cael ei wthio at ffiniau’r priodweddau yma ei hun pan mae’n penderfynu datgelu’r gwir mewn tref sy’n ymddangos yn benderfynol o’i guddio.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

‘ALL RISE for this powerfully uplifting theatrical event’

Evening Standard

Wedi’i osod yn Alabama yn 1934, cafodd To Kill a Mockingbird ei ysbrydoli gan blentyndod y nofelydd Harper Lee, ac mae wedi gwerthu dros 45 miliwn o gopïau ledled y byd. Enillodd y Wobr Pulitzer am Lenyddiaeth ac roedd ar frig rhestrau llyfrau gwahareddig am amser hir.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'POWERFUL. IMPORTANT. DEEPLY MOVING. I wept as I rose at the end'

Sunday Express

Mae addasiad llwyfan yr awdur sydd wedi ennill Oscar, Aaron Sorkin, o To Kill a Mockingbird wedi’i baru â chyfarwyddyd gweledigaethol Bartlett Sher. Mae Aaron Sorkin wedi cael llawer o flynyddoedd llwyddiannus ar y llwyfan a’r sgrin. Mae efallai yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr a sgrin-awdur y gyfres deledu lwyddiannus The West Wing, ac fel sgrin-awdur The Social Network, lle yr enillodd wobr yr Academi, Golden Globe, BAFTA a Writer’s Guild. Mae hefyd yn awdur-greawdwr The Newsroom a’r ffilm A Few Good Men, a enillodd wobr yr Academi. Treuliodd Bartlett Sher dros ddeg mlynedd fel Cyfarwyddwr Lincoln Center Theater yn Efrog Newydd, ac mae hefyd wedi arwain cynyrchiadau canmoladwy fel My Fair Lady, The King and I a South Pacific.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'Mockingbird soars anew in Sorkin’s blistering adaptation. SPELLBINDING'

Daily Mail

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed) 

Nodwch fod y cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith, themâu a chynnwys hiliol amlwg a chyfeiriadau at drais a chamdriniaeth rywiol. Bydd sŵn tanio gŵn byr yn ystod y perfformiad.

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 50 munud (gan gynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, argaeledd cyfyngedig). Ymaelodi

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7, Maw – Iau (2 bris uchaf). 

Dyddiad talu grwpiau: 23 Mehefin 2025. Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau). 

O DAN 16

Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw - Iau). 

YSGOLION

£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464)

Ar gael Maw - Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.

 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

 

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon