Paratowch ar gyfer noson o ddirgelwch, anhrefn a llofruddiaeth gyda’r Ditectifs Denim Dwbl – LoUis Cyfer a Victoria Scone! Ymunwch â nhw ym Mhencadlys Goruchwylio Ymchwilwyr Fforensig ar gyfer eu sioe newydd ‘Urge to Murder’.
Yn galw ditectifs cadair freichiau amatur a phobl sy’n dwli ar drosedd go iawn – dyma eich cyfle i ddatrys yr achos mewn noson yn llawn cabaret troseddol, canu byw a digonedd o syrpreisys. Gwisgwch eich côt gabardîn a’ch het drilbi, dewch â’ch ffrindiau angladdol a pharatowch ar gyfer noson gyffrous o chwerthin a gwewyr.
Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch i ddatgelu cliwiau, torri codau a dod o hyd i’r un euog (tybed?)!
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
Cwrdd a Chyfarch: Nifer cyfyngedig o docynnau £25 sy'n cynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch. Tocynnau safonol £20.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.