Ymunwch â’r seren cabaret arobryn ryngwladol Velma Celli am noson yn dathlu caneuon theatr gerdd gorau West End Llundain a Broadway.
Os ydych chi’n hoffi caneuon sioe, dyma’r cabaret i chi.
Mae Velma ei hun wedi ymddangos mewn rhai o sioeau mawr eiconig y West End fel Cats, Chicago, Fame a Rent ond mae’r sioe yma yn mynd â ni i bob cornel o’r genre ardderchog o Webber a Schwartz i Schönberg a llawer mwy.
Paratowch eich lleisiau a dewch i Wlad Theatr Velma ym myd tanddaearol nefolaidd Caerdydd i wylio’r sioe wych yma.
"The U.K's QUEEN of live vocal Drag"
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.