Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

Theatr Donald Gordon

15 – 25 Hydref 2025

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London War Horse {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2311

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

15 – 25 Hydref 2025

Theatr Donald Gordon

Oherwydd problemau amserlennu, mae cynhyrchwyr War Horse a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi penderfynu canslo'r perfformiadau canlynol: 14 a 20 Hydref. Mae perfformiadau newydd wedi cael eu hychwanegu am 2.30pm ar 19 a 22 Hydref. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi.

Mae’r ffenomenon byd-eang yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre yn dychwelyd mewn taith newydd sbon o’r DU ac Iwerddon. Mae War Horse yn brofiad theatraidd bythgofiadwy sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo, mae’r ddrama emosiynol a dychmygus yma, sy’n llawn cerddoriaeth a chaneuon cynhyrfus, yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol. Wrth ei gwraidd mae ceffylau maint go iawn syfrdanol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sy’n dod â cheffylau sy’n anadlu, yn carlamu ac yn rhuthro yn fyw ar y llwyfan.

A TRIUMPH OF THEATRICALITY

The Observer

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, caiff Joey, ceffyl annwyl Albert, ei werthu i’r Gwŷr Meirch a’i anfon i Ffrainc. Yn fuan caiff ei ddal mewn ymosodiad gan y gelyn, ac mae ffawd yn mynd ag ef ar daith eithriadol, gan wasanaethu ar y ddau ochr cyn ffeindio ei hun yn Nhir Neb ar ei ben ei hun. Dyw Albert, a arhosodd ar fferm ei rieni yn Nyfnaint, methu anghofio Joey. Er nad yw’n ddigon hen i ymrestru, mae’n mynd ar berwyl peryglus i ddod o hyd i Joey a dod ag ef adref.

Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo | Addaswyd gan Nick Stafford

Mewn cydweithrediad â’r cwmni llwyddiannus Handspring Puppet Company

Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed) mae'n cynnwys iaith gref, pyrotechneg (effaith niwl) a synau uchel sydyn. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 40 munud (gan gynnwys un egwyl)

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, argaeledd cyfyngedig) 15 Hydref. Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Llun – Iau. Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Llun – Iau.

O DAN 16

Gostyngiad o £10, Llun – Iau (2 bris uchaf).

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Perfformiadau Hygyrch

Gweld popeth
An illustration of Elphaba and Glinda

Wicked

Dear Evan Hansen

Dear Evan Hansen

Only Fools and Horses

Only Fools and Horses

Drama Gyffrous J B Priestley

An Inspector Calls

Hamilton title and star logo

Hamilton

Chicago

Calamity Jane

Y clasur cerddorol arbennig

Ghost the Musical

Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat

Geiriau gan Tim Rice, Cerddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber

War Horse

Cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre

Ghost Stories

Ysgrifennwyd gan Jeremy Dyson ac Andy Nyman

The swan prince

Swan Lake

Tŵr radio yng nghanol tref yn y cymoedd wedi'i gorchuddo gan eira. Testun yn aildrodd sy'n dweud PONTYPOOL

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru

PONTYPOOL

Addasiad llwyfan newydd gan Hefin Robinson

Testun: Rigoletto Verdi

Opera Cenedlaethol Cymru: Rigoletto

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Dathliadau Nadolig