Mae’r sesiwn Butterfly Soup yma yn ymwneud â gorffwys a dod o hyd i lawenydd.
Byddwn ni’n dod at ein gilydd ar gyfer gweithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar ysgafn a chynyddu cyflymder yn raddol, gan ganiatáu i’n cyrff symud gyda llawenydd a rhyddid llwyr.
Mae sesiynau Butterfly Soup wedi’u creu gan Academi Ardour fel man diogel a dathliad o’n cymuned LHDTCIA+. Maen nhw’n sesiynau creadigol sy’n cynnwys symudiadau, ymwybyddiaeth ofalgar, cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol. Does dim rhaid i chi fod yn berson “greadigol” na chael unrhyw brofiad mewn symudiadau i ddod. Mae’n ymwneud â chysylltu ag eraill a dilyn beth sy’n teimlo’n llawen yn ein cyrff.
Mae’r sesiwn yma wedi’i arwain gan bobl gwiar, Sara ac Anna.
Canllaw oed: 18+
Amser dechrau: 6:30
Hyd y perfformiad: tua 2 awr