Bydd Gareth Malone yn arwain perfformiad unigryw o’r Meseia gan Handel yng Nghadeirlan fyd-enwog Llandaf yng Nghaerdydd.
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio ochr yn ochr â rhai o unawdwyr proffesiynol gorau Prydain. Bydd wyth o newydd-ddyfodiaid i fyd canu corawl clasurol o Gaerdydd a’r cyffiniau yn rhan o’r Corws Cenedlaethol. Bydd y recriwtiaid newydd dawnus hyn yn cael dau fis o hyfforddiant gan Gareth i ganu’r Meseia.
Mae dwy raglen ddogfen yn cael eu cynhyrchu i olrhain cynnydd y cantorion newydd ynghyd â thaith Gareth Malone ei hun wrth iddo ddarganfod ystyr y Meseia a stori Handel a’r gerddoriaeth. Bydd y rhaglenni’n cael eu darlledu dros benwythnos y Pasg 2025 ar y BBC a disgwylir i’r perfformiad llawn gael ei ddarlledu ar ddydd Sul y Pasg.
Gwahoddir aelodau o’r gynulleidfa i ymuno â’r Corws Haleliwia a’r anthem derfynol.
Gareth Malone – Arweinydd
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Jessica Robinson – Soprano
Rebecca Afonwy-Jones – Mezzo-Soprano
James Way – Tenor
Roderick Williams OBE – Bariton
Sylwer: Pris pob tocyn yw £15 a bydd seddi ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gan mai cynhyrchiad teledu yw hwn, mae’n bosib na fydd gennych olwg glir o bob sedd oherwydd yr offer darlledu a/neu’r colofnau yn yr Eglwys Gadeiriol. Bydd y drysau’n agor tua awr cyn i’r perfformiad ddechrau a dylai pawb fod yn eu sedd 15 munud cyn dechrau. Os bydd y tywydd yn arw, nid oes lle i gysgodi cyn i’r drysau agor.
Bydd hanner pris y tocyn yn cael ei roi i BBC Plant mewn Angen.
Canllaw oedran: 16+
Amser cychwyn: 3pm
Amser rhedeg: 3 awr