Os mai taith yw bywyd, mae Zoe wedi cael digonedd o geudyllau a gwyriadau: o ddeifio gyda siarcod, i eistedd mewn sied yn Fietnam gyda chyn-weinidog iechyd (a darganfod mai nid Aelodau Seneddol yw’r unig barasitiaid mae’n rhaid iddi boeni amdanyn nhw).
Gall llywio’r ffordd i hapusrwydd fod yn flinedig ac annealladwy; mae Zoe wedi dechrau meddwl y byddai hyd yn oed yn well gyda Wim Hoff fod yn glyd gyda photel dŵr poeth neis bob nawr ac yn y man.
Ond mae Zoe wedi bod ar y ffordd honno yn ddigon hir nawr mae hi wedi teimlo newid – ac nid y menopos. Newid go iawn. Os mai bod y fersiwn gorau ohonoch chi eich hun yw hapusrwydd, mae Zoe yn cyrraedd yno o’r diwedd. Mae hi ble mae hi angen bod. Mae hi’n… flaidd.
Cyflwynydd Lightning y BBC, gwestai rheolaidd ar Have I Got News For You, QI a Mock The Week – a goroeswr Celebrity SAS Who Dares Wins a World’s Most Dangerous Roads ar Dave – Zoe yw un o ddigrifwyr mwyaf poblogaidd Prydain.
“A masterclass of how to write, construct, and perform an Edinburgh show, or any show in fact.”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
Rhybudd: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.