Mae James Taylor yn crynhoi goreuon cyfansoddi caneuon Americanaidd.
Mae ei gerddoriaeth wedi cyffwrdd â miliynau o bobl ledled y byd dros ei yrfa 55 mlynedd sy’n parhau, ac mae ei gerddoriaeth yn dal i sefyll prawf amser. Mae How Sweet It Is yn canolbwyntio’n bennaf ar yrfa gynnar Taylor yn cyfansoddi caneuon, gan gynnwys caneuon poblogaidd fel Sweet Baby James, Something In The Way She Moves, Fire and Rain ond mae hefyd yn cynnwys clasuron mwy diweddar fel yr atgofus Frozen Man. Mae Vernon James yn perfformio’r caneuon yn y ffordd y cawsant eu cyfansoddi ac yn ysbryd James Taylor ei hun, gyda goslef deimladwy. Yn ystod y sioe ddwy awr yma, byddwch chi’n mynd ar daith yn ôl i adeg symlach ac ymgolli eich hun yn sain felys ac alawon hyfryd y caneuon gorau a gyfansoddwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret