Dewch i ddathlu "60 Mlynedd o Gân" gyda Chôr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd mewn cyngerdd arbennig yn y Neuadd Hoddinott.
Bydd Côr Meibion Pendyrus, y soprano Jessica Robinson a'r tenor Trystan Llŷr Griffiths yn ymuno â'r côr. Ymunwch â ni ar gyfer dathliad o ganu corawl ac unawdwyr o fri, mae'n argoeli i fod yn noson gofiadwy.
Amser Dechrau: 7:30pm
Hyd y Perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud (gyda egwyl)
HYGYRCHEDD CADAIR OLWYN
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.