Mae’r trympedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Cabaret, ar ôl ei sioe a werthodd allan ym mis Chwefror, gyda’i fand o gerddorion gwych i chwarae cerddoriaeth y seren jazz Miles Davies.
Mae 7Steps yn perfformio rhai o’r clasuron sy’n gysylltiedig â’r trympedwr gwych; So What, All Blues, Milestones ond hefyd rhai o’r caneuon llai adnabyddus o gatalog eang Miles fel Joshua, Masqualero a Teo.
Mae 2026 yn nodi can mlynedd ers genedigaeth Miles Davies, a bydd 7Steps yn perfformio cerddoriaeth un o ffigurau mwyaf cerddoriaeth yr 20fed ganrif, gydag angerdd ac egni.
Mae’r pumawd yn cynnwys y cerddorion jazz Cymreig anhygoel Joe Northwood ar y sacsoffon tenor, y pianydd Dave Jones, y frenhines jazz Gymreig Paula Gardiner ar y bas a’r arbennig Mark O'Connor ar y drymiau.
Mae Tomos Williams yn llais blaenllaw ac unigryw ym myd jazz Cymru. Yn ddyledus i ac wedi’i ddylanwadu’n fawr gan gerddoriaeth Miles, mae 7Steps yn brosiect naturiol i Tomos ei arwain. Mae Tomos hefyd yn arwain y chwechawd jazz/gwerin Burum, y band cyfunol Indo-Cymreig arloesol Khamira, a’i brosiect Cwmwl Tystion/Witness.
Teithiodd 7Steps ledled Cymru yn 2018 a 2023, a dyma fydd perfformiad olaf eu taith yn 2026 i ddathlu canmlwyddiant Miles.
Mae cyngherddau’r band yn talu teyrnged i Miles Davies a’i gerddoriaeth ac maen nhw bob amser yn llawn – mynnwch eich tocynnau yn gynnar am noson o jazz bywiog ac unawdau anhygoel.
Tomos Williams – trwmped
Joe Northwood – sacsoffon tenor
Dave Jones – piano
Paula Gardiner – bas
Mark O'Connor – drymiau
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret