Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
2b5fcf0d-dbcb-495f-922a-b1ceaf5a4764

Aberfan 60

Neuadd Hoddinott Y BBC

25 Hydref 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Aberfan 60 {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-3064

Hoddinott Hall

Aberfan 60

25 Hydref 2026

Neuadd Hoddinott Y BBC

COFIO · CYMUNED · GOBAITH

I nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, mae’r cyngerdd hwn wedi’i angori gan gomisiwn newydd Paul Mealor, From Darkness into Light: requiem sy’n cynnig gobaith, gan ddod â Mark Lewis Jones, Corau Ysgolion Aberfan, Côr Meibion Ynysowen, a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC at ei gilydd mewn gweithred i gofio. Yn ganolbwynt iddo mae cerddoriaeth sy’n symud o frys i obaith. Mae This Moment Anna Clyne yn cynnwys fflachiadau o egni aflonydd; mae Symffoni Galar Haydn yn E leiaf (Rhif 44) yn symud ymlaen gydag angerdd ffyrnig; mae Mozart yn cynnig pwysau a thawelwch llewyrchol yn Andante cantabile “Jupiter”; ac mae Toward the Unknown Region Vaughan Williams, sydd wedi’i ysbrydoli gan Whitman, yn cychwyn ar daith chwilio at y gorwel.

Artistiaid: 

Tim Redmond – Arweinydd
Mark Lewis Jones – Adroddwr
Corau Cyfun Ysgol Gynradd Ynysowen ac Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
Côr Meibion Ynysowen
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Repertoire:

Anna Clyne This Moment
Haydn Symudiad 1 Symffoni Rhif 44 Galar
Mozart Symudiad 2 “Andante Cantabile” o Symffoni Rhif 41 ‘Jupiter'
Vaughan-Williams Toward the Unknown Region
Egwyl
Paul Mealor Aberfan: From Darkness to Light

Canllaw oed: (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau: 3pm

HYGYRCHED CADAIR OLWYN

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC