CYFOETHOG | GWYCH | ANGERDDOL
Sibelius Pelléas et Mélisande
Ravel Concerto i’r Piano ar gyfer Llaw Chwith
Chausson Symffoni yn B-leiaf
Mae’r pianydd llawchwith anhygoel, Nicholas McCarthy, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC yng Nghoncerto emosiynol bwerus a hynod feistrolgar Ravel i Biano Llaw Chwith.
Mewn byd canoloesol o freuddwyd a ffantasi, mae Pelléas et Mélisande yn rhoi hanes triongl serch tyngedfennol a’i dranc anochel, a adroddwyd ym melodrama Maeterlinck o’r un enw. Yn soniarus ddwys, yn dywyll gryf ac yn gythryblus ei harmonïau, mae’r campwaith hwn yn dal yn un o weithiau cyngerdd mwyaf poblogaidd Sibelius. Roedd Chausson yn fyfyriwr i Massenet a Franck, ac yn gyfansoddwr caneuon toreithiog, ond ei unig symffoni yw’r gwaith sy’n sefyll fel un o’i weithiau pwysicaf. O afiaith iachus y symudiad agoriadol, i ddwyster distaw’r symudiad araf a drama befriog y diweddglo, dyma symffoni ddychmygus, lliwgar, mawreddog a melodaidd feistrolgar sy’n un pecyn perffaith.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau: 7:30pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGYFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.