DYMA FI: Cyflwyno cantores o safon fyd-eang
Mae’r gantores Awstraliaidd ryngwladol Alison Jiear yn dod â llais pwerus, carisma a synnwyr digywilydd o hwyl i bob llwyfan.
Fel enwebai Gwobr Olivier, mae Alison wedi goresgyn neuaddau cyngerdd, ystafelloedd cabaret a llwyfannau theatre gerdd. Mae wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig gan gynnwys Ronnie Scott’s Jazz Club, Tŷ Opera Sydney a’r Royal Albert Hall, a chael adolygiadau disglair yn West End Llundain. Agorodd Mardi Gras Sydneu gyda’i chân lwyddiannus I Just Wanna F***** Dance*, sy’n siŵr o gael y gymuned LHDTC+ ar y llawr dawns.
O Les Misérables i Ella Fitzgerald, Aretha Franklin a Whitney Houston i Lady Gaga, gallwch chi ddisgwyl noson fythgofiadwy gyda llais anhygoel, jôcs doniol, straeon chwareus a chaneuon a fydd yn gwneud i chi chwerthin, dawnsio a llewygu – llwyfan Alison yw lle mae doniau pur yn cwrdd â hwyl pur.
Ar ôl diddanu miliynau o bobl ar Britain’s Got Talent, cafodd gymeradwyaeth sefyll gan y gynulleidfa a’r beirniaid, gan sbarduno Simon Cowell i ddatgan bod ganddi un o’r lleisiau gorau roedd erioed wedi’i glywed ar y sioe.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret