Pan gafodd Amy Mason ei hacio, collodd ei rhif, cyfrif banc a mynediad i’r cyfryngau cymdeithasol. Ac yna dechreuodd yr hacwyr anfon anrhegion iddi…
Ymchwiliad rhyfeddol ac eithaf brwnt i gysylltiad, agosatrwydd a pheryglon defnyddio enw eich cath marw fel eich cyfrinair ar gyfer popeth.
Mae Behold! yn archwiliad gwirion ond ffraeth o ddibyniaeth ddigidol, cyfeillgarwch a chymuned, wedi’i gyflwyno drwy gymysgedd nodweddiadol Amy Mason o adrodd straeon allan o drefn a chynhesrwydd digyffro.
Fel y clywyd ar Radio 1, Radio 5 a Radio 4. 10 Jôc Fwyaf Doniol Gŵyl Ymylol Caeredin 2024 The Guardian. Cyfarwyddwyd gan Jessica Fostekew.
Credyd Llyn: PIT LAD
“Witty, unfiltered, and enjoyably coarse, diving right into how connection, intimacy, and the chaos of how modern life works in reality… Deadpan, daring, and enticingly honest”
“thrillingly funny”
“Comedy perfection”
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Amser Rhedeg: 55 Munud (dim egwyl)
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret