Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

An Evening with Sir David Jason

26 Gorffennaf 2026

Theatr Donald Gordon

Mae Syr David Jason wrth ei fodd i fod yn camu ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno ei sioe newydd sbon ‘An Evening with Sir David Jason’.

Gyda Chymraes fel mam, a gafodd ei geni a’i magu ym Merthyr Tudful, mae Syr David yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i dde Cymru, lle mae ganddo gymaint o atgofion hapus o’r amser a dreuliodd gyda’i berthnasau Cymreig dros nifer o flynyddoedd.

Drwy hanesion doniol a myfyrdodau personol, ac yng nghwmni’r cyflwynydd Mike Bushell (BBC Breakfast), mae Syr David yn mynd â’r gynulleidfa ar daith – o’i ddyddiau cynnar mewn drama amatur i ddod yn un o actorion mwyaf poblogaidd Prydain gan serennu mewn sioeau fel Only Fools and Horses, A Touch of Frost, Open All Hours a The Darling Buds of May. Mae’n datgelu sut arweiniodd cyfarfodydd ar hap, gwaith caled ac ychydig o lwc at greu rhai o’r cymeriadau teledu mwyaf eiconig yn hanes Prydain.

Darganfyddwch sut wnaeth cymeriad Del Boy esblygu tu hwnt i weledigaeth wreiddiol yr awdur, sut y crefftiodd berfformiadau unigryw ar gyfer ei rolau amrywiol, a sut y daeth â chymeriadau animeiddiedig enwog fel Danger Mouse, The BFG, Count Duckula a Toad yn fyw – weithiau gyda dim ond un llun fel ysbrydoliaeth.

Dewch i ail-fyw rhai o’r eiliadau mwyaf cofiadwy yn hanes teledu Prydain, gan gynnwys y golygfeydd enwog o Only Fools and Horses – The Bar Fall, The Jolly Boys Outing, Batman and Robin a mwy. Mae David yn mynd â chi tu ôl i’r llen, gan ddatgelu’r cyfrinachau, technegau a hud ar set a wnaeth yr eiliadau yma yn ddiamser.

Ymunwch â Syr David Jason am noson o hiraeth, chwerthin a chipolwg arbennig ar yrfa sydd wedi gadael marc parhaol ar deledu Prydain. 

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 50 munud yn cynnwys un egwyl

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon