Rhwng 11 a 18 oed ac â diddordeb mewn dawnsio a symudiadau hip-hop?
Y cwrs 4 wythnos yma i ddechreuwyr yw’r lle perffaith i ddechrau!
Mae Platfform yn cyflwyno Archwilio Symudiadau Hip-hop.
Ymuna â’r dawnsiwr a’r coreograffydd Onyx Owandulu ar gyfer sesiynau llawn egni gyda symudiadau, cerddoriaeth a chreadigrwydd. Dros y pedair wythnos byddi di’n:
- Darganfod gwreiddiau a hanes symudiadau hip-hop
- Rhoi cynnig ar symudiadau parti poblogaidd
- Archwilio sut mae curiadau hip-hop yn llunio symudiadau
- Dysgu am ddiwylliant seiffr
- Adeiladu ar bopeth rwyt ti’n ei ddysgu ar gyfer trefn grŵp terfynol
Pryd mae’n digwydd?
Dydd Mercher 25 Chwefror 6–8pm
Dydd Mercher 4 Mawrth 6–8pm
Dydd Mercher 11 Mawrth 6–8pm
Dydd Mercher 18 Mawrth 6–8pm
Dydd Sadwrn 21 Mawrth 11am–4pm… gydag ymarferion a pherfformiad ar gyfer ffrindiau a theulu
Bydd pob cyfranogwr yn cael cyfle i ddod yn aelod o Platfform, gyda mynediad i deithiau arbennig, digwyddiadau a defnydd am ddim o’n gofodau a’n hoffer.
Onyx Owandulu
Mae Onyx yn ddawnsiwr a choreograffydd hip-hop sy’n dwli ar ddiwylliant hip-hop; mae’n ysbrydoli ei hymarfer ym mhob arddull dawns. Hi yw sylfaenydd Insanity Dance, ac mae wedi hyfforddi dawnswyr sy’n Bencampwyr Cymru, Is-Bencampwyr y Byd a thîm a ddaeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth y Byd UDO 2024. Yn addysgu yn stiwdio flaenllaw Caerdydd, J1 Studios, yn ogystal â nifer o leoliadau ledled De Cymru, mae Onyx yn frwdfrydig am ysbrydoli hyder yn ei dawnswyr, ar ac oddi ar y llawr dawns.
Sut ydw i’n cofrestru?
Caiff llefydd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestra drwy ein tudalen Eventbrite yma:
Hygyrchedd:
Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, neu sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd lle gall fod angen addasiadau, cefnogaeth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.