Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
desktop-8-january-2026

Arlunio Cerddorol ac Argraffiadau Cyfareddol

Neuadd Hoddinott Y BBC

8 Ionawr 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Arlunio Cerddorol ac Argraffiadau Cyfareddol {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2698

Neuadd Hoddinott

Arlunio Cerddorol ac Argraffiadau Cyfareddol

8 Ionawr 2026

Neuadd Hoddinott Y BBC

DIDDOROL | LLESMEIRIOL | MODERNAIDD

Alders Hillborg Exquisite Corpse
Augusta Read Thomas Cello Concerto [premiere byd]
Sibelius Lemminkäinen Cyfres

Gan ddilyn egwyddor Cadavre exquis – sef ysgrifennu llinell ar ddarn o bapur, ei blygu drosodd a’i basio ymlaen i’r person nesaf i ychwanegu llinell – mae Alders Hillborg yn cymryd dyfyniadau gan gyfansoddwyr eraill a’u mowldio gyda’i gilydd i greu Exquisite Corpse, collage cerddorol sy’n anhrefnus ond yn hynod o hardd. Wedyn croesawn yr hybarch Alban Gerhardt yn ôl at Gerddorfa Gymreig y BBC i berfformio’r première byd o Goncerto Augusta Read Thomas i’r Soddgrwth.

Wedi’i ysbrydoli gan chwedlau’r Kalevala, mae Cyfres Lemminkäinen Sibelius yn llawn anturiaeth Ffinnaidd. Opera fytholegol oedd y cynllun gwreiddiol, ond mae’r cathlau symffonig a ddeilliodd yn hollol hudolus. Ar ôl agoriad dirgel a thywyll, ceir dawns werin lawen, uchafbwyntiau ffrwydrol a chyffro pefriog yn eu tro, heb anghofio alaw lesmeiriol gysegredig Alarch Tuonela yn nofio trwy deyrnas y meirw, wedi’i chanu’n hyfryd gan y cor anglais unigol.

Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Amser cychwyn: 7.30pm

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

DAN 26 OED A MYFYRWYR

£6

ANABIL A DIGYFLOGEDIG

£10

DROS 65 OED

£12

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC