Mae’r digrifwr cerddorol arobryn Tracey Collins yn dychwelyd gyda sioe ddwbl ddewr, sy’n ailddychmygu eiconau Hollywood Audrey Hepburn a Judy Garland drwy gerddoriaeth, comedi ac ailddyfeisio theatraidd.
Audrey Heartburn:
Mae’r noson yn agor mewn anrhefn lawen gydag Audrey Heartburn. Mae Audrey wedi gadael torcalon Hollywood tu ôl iddi a chyrraedd Soho i ddawnsio a chael diod. Gallwch chi ddisgwyl chwarae gyda’r gynulleidfa, canu digymell a byrbrydau i’w rhannu!
Moody Judy:
Mae’r noson yn cau gyda Moody Judy. Yn yr ailddychmygiad doniol yma, mae Judy Garland yn darganfod The Smiths ac yn adnabod ei stori ei hun yn eu hiselder o Fanceinion. Mae’r clasuron cwlt yma yn troi’n gyffesion cabaret gydag ychydig o glamor a chicio uchel,
Mae There Is a Spotlight That Never Goes Out yn noson agos atoch a gwreiddiol o gomedi cerddorol na ddylech ei cholli.
“A relentlessly infectious, warmly entertaining, comedian. The energetically engaging Collins is superb”
"The queen of character comedy"
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iath Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret