Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Bill Kenwright Ltd yn cyflwyno

Barnum

Cynhyrchiad Y Watermill Theatre

17 – 21 Mawrth 2026

Theatr Donald Gordon

Camwch i mewn i fyd lliwgar P. T. Barnum, lle does dim ffiniau ar ddychymyg nac uchelgais.

Law yn llaw â’i wraig Charity, mae bywyd a gyrfa Barnum yn troi a throelli wrth iddo gynllunio a breuddwydio ei ffordd i fywyd gwell.

Bydd ffefryn y West End a’r seren deledu Lee Mead yn camu ar y llwyfan fel dyn sioe adnabyddus y 19eg ganrif P. T. Barnum. Daeth Lee yn enwog ar ôl ennill Any Dream Will Do a pherfformiadau llwyddiannus yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Wicked a Legally Blonde.

Bydd y llwyfannu newydd ysblennydd yma yn cynnwys cast ensemble arbennig o dros 20 o actorion-cerddorion yn chwarae 150 o offerynnau, acrobatiaid ac actau syrcas rhyfeddol. Mae’n sicr y bydd cynulleidfaoedd yn cael eu difyrru gan bob golygfa, rhyfeddod a gwyrth sy’n gysylltiedig ag enw Barnum!

Enillodd Barnum galon y DU yn gyntaf pan gafodd ei berfformio yn y London Palladium, gyda Michael Crawford yn creu hanes yn y byd theatr gan gerdded ar raff bob nos ar draws y llwyfan. A nawr, mae Lee Mead yn camu i mewn i esgidiau Barnum ac ar y rhaff!

Dewch i ddilyn y band gyda cherddoriaeth ogoneddus yr arobryn Cy Coleman, geiriau Michael Stewart a llyfr Mark Bramble. Mae Barnum yn cynnwys llwyth o ganeuon sioe gan gynnwys Join the Circus, Colours of My Life, Come Follow the Band a Love Makes Such Fools of Us All.

Cerddoriaeth gan Cy Coleman | Geiriau gan Michael Stewart | Llyfr gan Mark Bramble

Cyfarwyddwyd gan Jonathan O’Boyle

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed

Rhybuddion: Mae’r sioe yma yn cynnwys mwg, tawch, ergydion gwn, tân, synau uchel, goleuadau sy’n fflachio, eiliadau o dywyllwch, balŵns a chlowniaid, yn ogystal â phortreadau o hiliaeth, caethwasiaeth a chamfanteisio ar berfformwyr dynol ac anifeiliaid yn niwydiant adloniant y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 15 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, argaledd cyfyngedig). Dod yn aelod.

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4, grwpiau o 20+ gostyngiad o £5, grwpiau o 40+ gostyngiad o £6, (2 bris uchaf, Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.

16-30

Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau). 

O DAN 16

Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Maw – Iau). 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth
BG-JUL25-BBs-CARDIFF-1280x960

The Bodyguard

KK26036_1280x960pxls_CARDIFF

The Karate Kid

Mrs Doubtfire

Blood Brothers

Cardiff-1280x960

Just For One Day: The Live Aid Musical

TINA – The Tina Turner Musical

Cyflwynir mewn cydweithrediad â Tina Turner

Here & Now: The Steps Musical

Here & Now: The Steps Musical

PQOTD_New_CardiffOnSale_1280 x 960

Priscilla Queen of the Desert

Sunny Afternoon

Buddy – The Buddy Holly Story

LB_CARDIFF_DIGI ASSET UPDATES_SEP25_1280x960

Legally Blonde

PercyJackson-Thumb

The Lightning Thief: The Percy Jackson Musical

Matilda The Musical

Miss Saigon

Aileni'r Chwedl

Bill Kenwright Ltd yn cyflwyno

Barnum

Cynhyrchiad Y Watermill Theatre

A Night At The Musicals

Gyda Welsh of the West End a The Novello Orchestra

MG-2025-06-B&Bs-ATG-1280x960

Mean Girls

Annie

MM!-2025-09-Tour-Cardiff On Sale-Thumbnail-1290x96055401SA

MAMMA MIA!

WAITRESS-2026-01-CHFVenuesAssetUpdate-57030SA-ΓÇïCDF-55302SA-1280x960

Waitress

DirtyDancing-Thumb

Dirty Dancing

The Choir of Man

JB_CARDIFF_ON SALE ASSETS_OCT25_What’s On Thumbnail 1280x960 (1)

Jersey Boys

Mary Poppins