Daliwch ‘mlaen i’ch hetiau papur a’r bybls… Y Nadolig yma, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno noson fwyaf hudolus, mwyaf beiddgar a mwyaf Cymreig yr ŵyl.
Sioe ysblennydd cabaret drag yw Barrylesque sy’n rhoi triniaeth Ynys y Barri llawn i fyd annwyl Gavin & Stacey. Gyda’ch hoff gymeriadau i gyd, wedi’u hailddychmygu fel perfformwyr drag a bwrlésg epig ar gyfer noson o ganu byw, meimio, comedi ac anhrefn. Gallwch chi ddisgwyl ymadroddion bachog eiconig, cymeriadau pryfoclyd a diweddglo cyd-ganu a fydd yn gwneud i bawb godi ar eu traed.
Ac efallai, byddwn ni’n gweithio allan beth ddigwyddodd ar y trip pysgota.
Cabaret, comedi sefyllfa ac yn llawn eironi – Barrylesque yw’r unig anrheg Nadolig sy’n werth ei rhoi eleni.
Peidiwch â’i cholli. Mae’n lysh.
Ymwadiad / Hysbysiad Hawliau
Mae Barrylesque: Oh! It’s a Parody! yn gynhyrchiad cabaret parodi gwreiddiol. Nid yw’n ymgysylltiedig â, wedi’i gymeradwyo gan, wedi’i awdurdodi gan, nac yn gysylltiedig â’r BBC, Baby Cow Productions, James Corden, Ruth Jones nac unrhyw greawdwyr, perfformwyr, darlledwyr, cynhyrchwyr, dosbarthwyr na deiliaid hawliau sy’n gysylltiedig â Gavin & Stacey.
Caiff unrhyw gyfeiriadau at deledu, diwylliant poblogaidd, cymeriadau, lleoliadau, ymadroddion neu straeon adnabyddus eu defnyddio at ddibenion parodi, dychanu, clytwaith a sylwebaeth. Ni awgrymir cymeradwyaeth na chydgysylltiad swyddogol.
Amser dechrau: 3:30 pm, 3 pm Drysau + 8:30pm, 8pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Anweddus, Noethni a Strobo Posibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret