Beth petai Cher yn gadael y byd adloniant, yn cyfnewid lledr am bolyester, ac yn dod yn gyflwynydd bingo? Wel, does dim rhaid i chi ddychmygu rhagor..
Mae’r perfformiwr arobryn Tracey Collins (Audrey Heartburn, Elvis Lesley) yn dod â’i phersona gwefreiddiol Shell Suit Cher yn fyw yn y sioe bingo gomedi gerddorol llawn egni ddoniol yma.
Gallwch chi ddisgwyl:
-
Chwerthin, dawnsio a bingo hynod gystadleuol
-
Gwobrau chwerthinllyd “a fydd yn newid eich bywyd”
-
Caneuon mwyaf poblogaidd Cher – wedi’u hail-greu mewn ffordd ddoniol
-
Yr hanes disglair tu ôl i daith Cher o Vegas i Mecca (Bingo) a thu hwnt.
Mae Shell Suit Cher: Believe In Bingo yn wrthdrawiad terfysglyd o gerddoriaeth, comedi ac anrhefn – lle mae diwylliant pop yn cwrdd â pholyester.
Ail-ddychmygu’r eicon pop fel difa wedi ymddeol sydd wedi troi’n frenhines bingo, wedi’i phweru gan drydan statig a llawenydd pur.
Ar ôl sioeau a werthodd allan ac adolygiadau brwd ledled gwledydd Prydain, mae Tracey Collins yn parhau i brofi pam ei bod hi’n un o’r perfformwyr mwyaf gwreiddiol a di-ofn mewn comedi.
Absolutely hysterical… Bingo, but make it Cher!
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret