Mae sêr cabaret The Bitten Peach yn dod â’i sioe cabaret amrywiaeth i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Mai!
The Bitten Peach yw prif Gwmni Cabaret Asiaidd Cwiar gwledydd Prydain. Ers ffurfio yn 2019, mae The Bitten Peach wedi mynd â’u sioeau ledled gwledydd Prydain, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u harddull tafod yn eu boch a chymysgedd pensyfrdanol o ffurfiau cabaret. Mae’r eirin gwlanog wedi cymryd drosodd Somerset House, Southbank Centre, sicrhau rhaglen ddogfen ar Netflix a chwblhau eu cyfnod preswyl cyntaf yng Ngŵyl Underbelly yn 2024. Peidiwch â cholli allan! Mynnwch eich tocynnau nawr.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref, Noethni, & Goleuadau Strôb
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret