Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Blindboys-LAGC

LLAIS

Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir

Theatr Donald Gordon

9 Hydref 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-3099

LLAIS

Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir

9 Hydref 2026

Theatr Donald Gordon

Mae'r Blind Boys of Alabama yn dod â noson o ganu enaid a gospel i Llais 2026 ac yn cael eu cefnogi gan Gôr Gospel Affricanaidd Llundain, fydd yn perfformio albwm Paul Simon, Graceland.

Mae'r Blind Boys of Alabama yn rhan o chwedloniaeth cerddoriaeth gospel, gan ddod â thros 70 mlynedd o enaid, angerdd a grym adrodd straeon i lwyfannau ledled y byd. Wedi'u hanrhydeddu â Gwobrau Cyflawniad Oes gan Gronfa Genedlaethol y Celfyddydau a’r GRAMMYs, wedi’u cynnwys yn Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth Gospel, ac wedi ennill chwe Gwobr GRAMMY®, mae eu taith ryfeddol yn dyst i artistwaith a gwydnwch sydd wedi para.

O’u dyddiau cynnar yn perfformio am arian poced yn Nhaleithiau'r De yng nghyfnod Jim Crow i fod yn drac sain i'r Mudiad Hawliau Sifil a pherfformio i dri o arlywyddion yr Unol Daleithiau, mae eu cerddoriaeth yn cario hanes cyfoethog o ddyfalbarhad a gobaith. Mae eu halbwm ddiweddaraf, Echoes of the South, yn parhau â'r etifeddiaeth hon – gan ennill Gwobr GRAMMY® a nifer o enwebiadau – gyda myfyrdod teimladwy ar frwydr, cryfder a buddugoliaeth.

Mae eu stori bellach yn ymestyn y tu hwnt i'r llwyfan gyda rhyddhau Spirit of the South, cipolwg agos atoch ac ysbrydoledig ar y bywydau, y lleisiau, a'r straeon sydd heb eu hadrodd y tu ôl i un o grwpiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth gospel.

Yn ymuno â nhw mae’r Côr Gospel Affricanaidd Llundain, yn ôl gyda’u hail-ddychmygiad cyffrous o albwm chwedlonol Paul Simon, Graceland, fydd yn cyffwrdd yr enaid – gan nodi 40 mlynedd o’r glasur oesol honno.

Bydd y cyngerdd yn tynnu ynghyd leisiau llawen, harmonïau hyfryd, a dathliad anorchfygol o dreftadaeth gerddorol Affricanaidd, yn cael ei berfformio gydag angerdd, enaid, a rhythm gwefreiddiol.

Mewn noson fythgofiadwy o lawenydd ac asio diwylliannol, bydd Côr Gospel Affricanaidd Llundain yn dod â bywyd newydd i glasuron fel “You Can Call Me Al” a “Diamonds on the Soles of Her Shoes”. Dim ots ydych chi'n gwrando'n selog ar yr albwm wreiddiol ers blynyddoedd neu'n darganfod ei hudoliaeth am y tro cyntaf – bydd hwn yn brofiad byw fydd yn cysylltu'r cenedlaethau ac yn mynd y tu hwnt i ffiniau.

Amser dechrau:

Drysau, 7.30pm

London African Gospel Choir, 8pm

Blind boys of Alabama, 10pm

Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)

Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys cerddoriaeth uchel, goleuadau sy'n fflachio neu strôb, effeithiau mwg neu dawch ac iaith gref.

Cynnig tocynnau

Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.

Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.

I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, na’r profiadau Sinema Realiti Rhithwir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.

Nodwch, ar gyfer sioeau Llais yn Theatr Donald Gordon mae'r cynnig ond ar gael ar seddi pris uchaf.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Llais

Gweld popeth
5b812d78-4dd2-4f0e-9e5f-80cfbe531720

LLAIS

Bess Atwell

Blind Boys_LAGC-Mob

LLAIS

Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir

26071 Llais_Individual-Announcement_EW_V1225

LLAIS

Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewellyn

Shovel Dance_Naima-Mob

LLAIS

Shovel Dance Collective + Naima Bock

24f1966b-f0a8-4d9d-b6eb-3ba28985f771

LLAIS

Jordan Playfair

LLAIS

Landless

49919f81-ea5e-4761-a5c6-cc6509edb0e0

LLAIS

Sirens: Wedi’i gyflwyno gan Lisa Hannigan

Gyda Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church + mwy

Tomos Williams Photo Credit Matthew Thistlewood

LLAIS

Tomos Williams' Cwmwl Tystion III / Empathy

WMP26-Sgwar

LLAIS

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Hoddinott Hall

Jasdeep Singh Degun X BBC NOW

Dod Ynghyd

69ce8bb5-bcab-49ba-aed5-54048ce84d43

LLAIS

Laurie Anderson: Friends and Teachers

Buena Vista_Baobab-Mob

LLAIS

Buena Vista All Stars + Orchestra Baobab