Yn syth o’u taith ledled Awstralia, mae’r cabaret cerddoriaeth fyw arobryn yma yn cyrraedd ‘nôl yng Nghaerdydd gyda band byw llawn ar gyfer sioe sy’n llawn o’u perfformiadau gorau!
Beth sy’n digwydd pan mae dihiryn jazz penrhydd yn cwrdd ag uwchnofa modern strip-bryfocio? Blues and Burlesque. Gyda cherddoriaeth wreiddiol wedi’i pherfformio’n fyw gan Pete Saunders (Dexy’s Midnight Runners) a strip-bryfocio merch sioe gan Belle de Beauvoir (The Sparkling Diamond of Burlesque – Radio BBC), mae’r perfformiad serol yma yn dathlu oes aur cabaret gyda throad modern.
Gallwch chi ddisgwyl piano byw, lleisiau teimladwy, tiwniau bythgofiadwy a chomedi a fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel.
‘Enthralls…a triple threat talent’
‘Smooth, polished and absolutely tantalising... the perfect combination’
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret