Agorodd y sioe West End arobryn syfrdanol yma yn gyntaf yn 1989 ac mae wedi bod yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd ers hynny. Nawr mae’n ymweld â Chaerdydd fel rhan o’i daith ledled y DU 2025/26.
Bydd Buddy – The Buddy Holly Story yn gwneud i chi DEIMLO’N WYCH! Profwch y ddrama, angerdd a chyffro wrth i gast amldalentog o actorion-cerddorion adrodd stori Buddy Holly, o’i fagwraeth yn Texas i enwogrwydd rhyngwladol a’i berfformiad olaf hanesyddol yn y Surf Ballroom yn Clear Lake, Iowa, cyn ei farwolaeth drasig yn 22 oed.
5206 AJ Jenks as Buddy Holly
Hamish Gill f8creates4846 AJ Jenks as Buddy Holly
Hamish Gill f8creates7116 AJ Jenks - centre - as Buddy Holly
Hamish Gill f8creates6509 AJ Jenks as Buddy Holly
Hamish Gill f8creates5080 AJ Jenks as Buddy Holly
Hamish Gill f8creates4141 Joshua Barton as The Big Bopper
Hamish Gill f8creates7286 AJ Jenks as Buddy Holly, Marta Miranda
Hamish Gill f8creates9142 Miguel Angel as Ritchie Valens
Hamish Gill f8createsGyda dwy awr fendigedig o’r caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed, gan gynnwys That’ll Be The Day, Oh Boy, Rave On, La Bamba, Chantilly Lace, Johnny B. Goode, Raining In My Heart, Everyday, Shout, Peggy Sue a llawer mwy, mae’r sioe yma yn un gwych!
Archebwch nawr ar gyfer y sioe gerdd roc a rôl fwyaf llwyddiannus erioed!
"It's Buddy Brilliant"
Canllaw oed: 7+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybudd: Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys goleuadau tawch
Amser dechrau:
Iau – Sad 7.30pm
Sad + Sul 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf ar seddi penodol, Iau – Gwe (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp.
Dyddiad talu grwpiau: 9 Chwefror 2026
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Iau – Gwe
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Iau – Gwe
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.