Ymgollwch mewn rhaglen ddwbl ysblennydd yn dathlu'r cysylltiadau cerddorol rhwng Ciwba a Gorllewin Affrica, wedi'i pherfformio gan ddau o ensembles mwyaf cyffrous a dylanwadol y byd.
Cerddorfa arbennig yw Buena Vista All Stars sy'n cynnwys y cerddorion gorau o Giwba, fel Demetrio Muñiz a Barbarito Torres, aelodau gwreiddiol Buena Vista Social Club, y mae eu perfformiadau bywiog wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ledled y byd. Gan gyfuno rhythmau traddodiadol Ciwba â dylanwadau Affricanaidd a Sbaenaidd, mae'r ensemble yn dod â harddwch, angerdd ac enaid Ciwba yn fyw drwy gerddoriaeth feistrolgar ac egni heintus.
Â'u gwreiddiau mewn cenedlaethau o dreftadaeth gerddorol ond hefyd yn cofleidio ysbryd ffres a chyfoes, mae Buena Vista All Stars yn anrhydeddu etifeddiaeth barhaus cerddoriaeth Ciwba wrth ddathlu ei lle fel ffurf fyw ar gelfyddyd sy'n esblygu.
Bydd Orchestra Baobab yn ymuno â nhw ar y rhaglen gan ddod â synau Senegal i Gaerdydd. Ar ôl cael ei sefydlu yn Dakar yn 1970, daeth y grŵp adnabyddus yn un o gonglfeini cerddoriaeth Affricanaidd gyda'i asiad nodedig o rhythmau Affro-Ciwbaidd a thraddodiadau cerddorol Wolof, Mandinka a Serer.
Mae Orchestra Baobab, sy'n ailddyfeisio eu sain yn barhaus ond gan aros yn driw i'w gwreiddiau, yn swyno cynulleidfaoedd ers degawdau gyda'u rhythmau hypnotig, eu halawon cain a'u dawn gerddorol eithriadol. O glybiau agos-atoch Dakar i lwyfannau ledled y byd, mae eu cerddoriaeth yn adrodd hanes treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol.
Gyda'i gilydd, mae'r ddau ensemble eiconig hyn yn eich gwahodd ar daith gerddorol fythgofiadwy sy'n llawn rhythm, traddodiad a chaneuon oesol sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau ac yn cysylltu diwylliannau.
Amser dechrau:
Drysau, 6.30pm
Orchestra Babao, 7pm
Buena Vista All Stars, 9pm
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys cerddoriaeth uchel, goleuadau sy'n fflachio neu strôb ac effeithiau mwg neu dawch.
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, na’r profiadau Sinema Realiti Rhithwir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Nodwch, ar gyfer sioeau Llais yn Theatr Donald Gordon mae'r cynnig ond ar gael ar seddi pris uchaf.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy