Mae clowniau drag gorau gwledydd Prydain, Gigi a Crusty, ‘nôl – a’r tro yma, maen nhw’n dod â HYD YN OED MWY O DEIMLADAU i’w fersiwn anhrefnus, cwiar a gogoneddus o bennod gerddorol eiconig Buffy the Vampire Slayer: Once More, With Feeling.
Ydyn, maen nhw yn chwarae pawb.
Ydy, mae’n cwiar iawn.
A byddwch chi yn ymuno â’r canu.
Fel y West End yn cwrdd ag anhrefn Bar Hoyw. Gallwch chi ddisgwyl sesiynau cyd-ganu gwirion! Newidiadau gwisgoedd amheus! Gwybodaeth ddibwys a gwallgof am Buffy! Ac ychydig o help gennych chi, Y Gynulleidfa™!
Ar ôl tair blynedd o sioeau a werthodd allan, mae ein hailddychmygiad hurt o bennod gerddorol Buffy ‘nôl yn fyw – eto! A’r tro yma, ar daith!
Rydyn ni’n atgyfodi Once More, With Feeling… y tro yma gyda HYD YN OED MWY O DEIMLADAU nag erioed o’r blaen!
Achos gadewch i ni wynebu’r gwir: mae gyda ni theori na allwch chi fyth gael gormod o Buffy yn eich bywyd. Felly paratowch i gerdded drwy’r tân – achos unwaith y byddwch chi o dan ein swyn, byddwch chi’n gallu gorffwys mewn hedd.
Stopiwch sefyll yn ffordd eich hapusrwydd eich hun – fe welwn ni chi yn Cabaret ar 24 Mai!
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret