Ar werth i aelodau Partner a Phartner Awen 2 March, 10am.
Ar werth i aelodau Ffrind 4 March, 10am.
Ar werth i Grwpiau 5 March, 10am.
Ar werth i'r cyhoedd 6 March, 10am.
SIOE GERDD NEWYDD FAWR.
Ar ôl ysgubo i mewn i’r West End – lle ddaeth yn llwyddiant mwyaf haf 2025, gan werthu allan bob nos – mae Burlesque, Sioe Gerdd Newydd FAWR, yn dod i Gaerdydd ym mis Medi.
Gan y cynhyrchydd gweithredol Christina Aguilera ac wedi’i hysgrifennu gan Steven Antin, mae Burlesque yn eich gwahodd i glwb fel nunlle arall: byd cudd o dan oleuadau’r ddinas lle mae secwinau yn disgleirio, deniadau yn pelydru a gall bywydau newid mewn chwipiad bwa pluog.
"WOW"
"A MUST-SEE SHOW"
Pan mae Ali’n cyrraedd Efrog Newydd yn chwilio am y fam doedd hi erioed yn ei hadnabod, mae hi’n taro ar sîn tanddaearol disglair sy’n fyw gyda cherddoriaeth, symud a dirgelwch. Wrth iddi gael ei thynnu i mewn i’r byd meddwol yma, mae’n dechrau datgelu ei llais anhygoel – ac yn dod o hyd i deulu annisgwyl o freuddwydwyr, misffitiaid a chynllunwyr a fydd yn newid ei bywyd am byth.
Mae Burlesque yn daith befriol o hunan-ddarganfod sy’n hisian, ac yn cynnwys caneuon pwerus gan Christina Aguilera, Sia a Diane Warren, ochr yn ochr â rhai newydd cyffrous gan Todrick Hall a Jess Folley.
Ysgrifennwyd gan Steven Antin, a ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilm Burlesque wreiddiol yn 2010.
Y cynhyrchydd gweithredol yw Christina Aguilera, sy'n dod â'i phŵer fel seren, gwaddol cerddorol ac ymrwymiad i'r sioe.
Caneuon gan Christina Aguilera, Sia a Diane Warren, gyda rhai newydd gan Todrick Hall a Jess Folley.
"Unmissable"
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Rhybuddion: Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, pyrotechneg ac iaith gref
Amser dechrau:
Maw - Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5 ar seddi penodol (Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau).
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw - Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.